Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid – 21 Mawrth 2024, San Steffan
Cyfarfu Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid am y trydydd tro yn Nhŷ Portcullis, San Steffan ddydd Iau, 21 Mawrth. Roedd aelodau o Bwyllgor Cyllid y Senedd[1] a Phwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban yn bresennol, ac roedd swyddogion hefyd yn bresennol o Bwyllgor Cyllid Cynulliad Gogledd Iwerddon.
Cynhaliwyd y sesiynau anffurfiol a ganlyn:
- Trafodaeth bord gron gyda Chadeirydd ac Aelodau Pwyllgor y Trysorlys Tŷ’r Cyffredin;
- Cyfarfod gyda chyn Weinidog y Trysorlys, y Gwir Anrh. David Gauke;
- Cyfarfod gyda Chadeirydd ac Arbenigwr Pwyllgor, y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol;
- Cyfarfod gyda Mike Keoghan, Dirprwy Ystadegydd Gwladol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Ystadegau Economaidd, Ystadegau Cymdeithasol ac Ystadegau Amgylcheddol; a
- Chyfarfod gyda Dr Hannah White, Cyfarwyddwr, Institute for Government.
Gwahoddwyd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ac Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys i gwrdd â’r Fforwm ond gwrthodwyd y gwahoddiad.
Cytunodd aelodau’r Fforwm i anfon llythyr ar y cyd at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, fel Gweinidog y Trysorlys sy’n gyfrifol am faterion datganoledig, yn mynegi siom nad oedd hi na’r Ysgrifennydd Ariannol ar gael i gyfarfod yn anffurfiol, ac yn gofyn am gamau gweithredu ar y meysydd a ganlyn:
· Bod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys a/neu’r Canghellor yn rhoi tystiolaeth i’n Pwyllgorau pan ofynnir iddynt, er mwyn galluogi gwaith craffu mwy effeithiol ar y sefyllfa gyllido gyffredinol yn y gwledydd datganoledig. Byddai hyn yn ailddechrau arfer mewn sesiynau seneddol blaenorol, sydd i'w groesawu.
· Y rhoddir rhagor o ystyriaeth i amseriad Cyllideb yr Hydref a’i heffaith ar graffu ar gyllidebau datganoledig, a
· Rhagor o sicrwydd i’r llywodraethau datganoledig, cyrff cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yng Nghymru a’r Alban ynghylch cynlluniau gwariant amlflwyddyn, a rhannu gwybodaeth yn gynharach.
Darparodd y ddau Bwyllgor ddiweddariadau ynghylch eu rhaglenni gwaith hefyd, a nodwyd meysydd o ddiddordeb cyffredin fel sail ar gyfer rhagor o gydweithio.
Cytunir ar yr union leoliad a dyddiad y cyfarfod
nesaf maes o law.
Yn bresennol
· Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Senedd
· Peter Fox AS, Aelod o Bwyllgor Cyllid y Senedd
· Mike Hedges AS, Aelod o Bwyllgor Cyllid y Senedd
· Kenneth Gibson ASA (Aelod o Senedd yr Alban), Cynullydd y Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
· Michael Marra ASA, Dirprwy Gynullydd, y Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
· Liz Smith ASA, Aelod o’r Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
· Michelle Thomson ASA, Aelod o’r Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
· Ross Greer ASA, Aelod o’r Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
· Jamie Halcro Johnston ASA, Aelod o’r Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus